Review Cart

The U.K's largest supplier to the
world of fibre-crafts

Am dros 30 mlynedd rydym wedi bod yn cyflenwi cwsmeriaid yn y DU a thramor gyda ffibrau ac offer. Heddiw, rydym yn cynnig y dewis ehangaf o ffibrau naturiol, ffibrau synthetig a ffibrau wedi'u hailgylchu yn y wlad, ynghyd ag amrywiaeth gwych o offer. Mae gennym siop hir sefydlog yn Swydd Efrog, lle gallwch fynd i weld ein stoc gyfan, a gallwch hyd yn oed profi ein ffibrau yn rhad ac am ddim cyn eu prynu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ein ffibrau, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch helpu.

Ar hyn o bryd rydym ni ond wedi cyfieithu tudalen flaen y wefan. Rydym ni eisiau defnyddio cyfieithydd Cymraeg go iawn yn hytrach na pheiriant fel google translate felly bydd hyn yn cymryd amser. Byddwch yn amyneddgar â ni!

Mae ein prisiau yn cael eu dangos gyda'r gyfradd TAW newydd o 15%

Oriau agor y siop

Dydd Sul 11.30 - 5.00
Dydd Llun 1.30 - 5.00 

Bob adeg arall drwy apwyntiad ac eithrio Dydd Sadwrn.

Oriau agor y swyddfa archebu trwy'r post

Dydd Llun 9.30 - 12.30 & 1.30 - 5.00
Dydd Mawrth 9.30 - 12.30 & 1.30 - 5.00
Dydd Mercher 9.30 - 12.30 & 1.30 - 5.00
Dydd Iau 9.30 - 12.30 & 1.30 - 5.00

Byddwn ar gau ar bob gŵyl banc ac ar y dyddiau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Os ydych yn teithio o bell ffoniwch i fod yn sicr y byddwn ar agor. Rydym fel arfer ar agor ar Ddydd Sul a Dydd Llun ond yn anaml iawn mae'n rhaid i ni gau. Os ydych angen cyngor arbenigol neu dechnegol, ffoniwch i wneud yn siŵr y bydd rhywun yn gallu'ch helpu.

 

 

Featured Artist - Clare Hadley

Facebook
Roedd rhaid i ni wneud hyn rhywbryd! Mae gennym dudalen newydd sbon ar Facebook. Ymunwch â'r tudalen i dderbyn gwybodaeth am y siop, ein cynigon a'n tripiau o gwmpas y wlad.

Cynnig ar gyfer tanysgrifwyr
Bob wythnos rydym yn cymryd 15% oddi wrth bris eitem benodol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth: wlân, sidan, edafedd, llyfrau, offer ......
Bydd pob tanysgrifiwr yn cael eu hysbysu o'r hyn sydd ar gael bob wythnos ac yn derbyn y cod arbennig i archebu.
I danysgrifio gan ymuno â'r rhestr e-bost dilynwch y ddolen isod:
TUDALEN TANYSGRIFWYR